P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad llawn a chynhwysfawr i’r GIG yng Nghymru. Bydd yr ymchwiliad diagnostig hwn yn sicrhau yr eir ati i nodi pob mater sy’n peri pryder, ymdrin ag ef, a gwella safonau’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn barhaus, er lles staff a chleifion y GIG a phobl Cymru.   

Prif ddeisebydd:   PJ Vanston

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 9 Rhagfyr 2014

 

Nifer y llofnodion:   146